Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Toriad: Dydd Llun 28 Hydref 2013 - Dydd Sul 3 Tachwedd 2013

Dydd Mawrth 5 Tachwedd a dydd Mercher 6 Tachwedd 2013

Dydd Mawrth 12 Tachwedd a dydd Mercher 13 Tachwedd 2013

Dydd Mawrth 19 Tachwedd a dydd Mercher 20 Tachwedd 2013

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cynnydd o ran Troi Tai'n Gartrefi (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Teithio at Ddyfodol Gwell - Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflenwi ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Creu Cymwysterau Cymru (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y Cyfleoedd a'r Heriau y mae'r Sector Coedwigaeth yng Nghymru yn eu Hwynebu (30 munud)

·         Dadl: Cymorth i'r Lluoedd Arfog yng Nghymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud) - gohirwyd

 

Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Gynhadledd Fawr - y camau nesaf (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Paratoadau ar gyfer Tywydd y Gaeaf (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru: Yr Ail Adroddiad (30 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (15 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 (15 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol (15 munud)

·         Dadl: Cynlluniau'r GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol i fod yn Barod ar gyfer y Gaeaf (60 munud)

 

Dydd Mercher 13 Tachwedd 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Bresenoldeb ac Ymddygiad (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl fer - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cyflwyno'r Bil Tai (Cymru) (60 munud)

·         Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013 (15 munud)

·         Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2014-15 (120 munud)

·         Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13 (60 munud)

 

Dydd Mercher 20 Tachwedd 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15 (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Keith Davies (Llanelli) (30 munud)